Cydweithio

Gall unigolion gyflawni llawer. Ond gallwch gyflawni mwy fyth wrth gydweithio.
Gweithio fel Tîm
Mae'n bosibl gwneud llawer o bethau gwych ar eich pen eich hun ac mae cael grŵp o bobl i gydweithio'n effeithiol yn ymdrech. Ond bydd pobl sy'n cydweithio mewn tîm bron bob amser yn cyflawni mwy na phobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain. Hefyd, mae cydweithio'n llawer mwy o hwyl!
Mae sefydlu grŵp yn sgil!
Dyma bum awgrym ar gyfer sefydlu grŵp. 'Fydd dim rhaid i chi wneud y rhain i gyd. Meddyliwch am yr hyn fydd yn gweithio orau i chi.
1 | Dechreuwch â phobl rydych chi'n eu hadnabod sydd o'r un feddwl â chi. Gofynnwch iddyn nhw ymuno â chi a gofynnwch iddyn nhw wahodd pobl eraill y maen nhw'n eu hadnabod. |
2 | Trefnwch ddigwyddiad fel dangos ffilm neu arddangosfa gelf. Defnyddiwch eich digwyddiad i ddenu mwy o bobl i gymryd rhan. Cadwch olwg am ddigwyddiadau eraill lle gallech siarad neu gael stondin i hyrwyddo eich grŵp. |
3 | Gwnewch rywbeth creadigol i hyrwyddo eich grŵp. Er enghraifft, gallech bobi teisennau gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg a’u dosbarthu ar stondin yn ystod yr awr ginio. |
4 | Trefnwch weithgaredd hwyl - fel argraffu crysau t neu beintio baner - i danio dychymyg pobl a'u hannog i gyfrannu. |
5 | Meddyliwch pwy sydd ar goll o'ch grŵp (er enghraifft, pobl artistig, meddylwyr mawr neu bobl sy'n dda am drin a thrafod ffigurau). Gofynnwch i bobl benodol ymuno â chi. |
Un o'r pethau anodd wrth sefydlu grŵp yw cael pobl i gydweithio, yn enwedig os nad ydych chi'n adnabod eich gilydd yn dda i ddechrau neu os ydych chi'n swil.
Gweithgareddau cychwynnol ar gyfer eich grŵp
Dyma rai gweithgareddau ar gyfer dechrau arni.
Gweithgaredd |
Ysgwyd llaw Creu hunaniaeth i'r grŵp trwy ddyfeisio dull cŵl o gyfarch eich gilydd!
|
Taten boeth: 15 munud Lapiwch wrthrych bach mewn dalennau papur â gwahanol dasgau wedi'u hysgrifennu arnyn nhw (gallech ysgrifennu'r tasgau ar ddarnau unigol o bapur rhwng yr haenau). Bydd y cyfranogwyr yn pasio'r gwrthrych o gwmpas mewn cylch tra bydd cerddoriaeth yn chwarae. Pan fydd y gerddoriaeth yn stopio, rhaid i'r un sy'n dal y gwrthrych gyflawni'r dasg sydd wedi'i hysgrifennu ar y papur. Rhai syniadau o ran tasgau:
|
Contract cymdeithasol: 10 munud Gofynnwch i'r aelodau am syniadau ynghylch y rheolau a'r ymddygiad sydd eu hangen ar y grŵp er mwyn sicrhau'i fod yn gweithio'n effeithiol - yn enwedig yn ei gyfarfodydd. Cytunwch ar bob syniad yn ei dro a'i ysgrifennu ar ddalen fawr o bapur a fydd yn dod yn 'gontract cymdeithasol' ar gyfer y grŵp. Gofalwch fod pawb yn cytuno ar yr hyn sy'n cael ei ddweud, a gofynnwch i bawb lofnodi'r fersiwn terfynol. |
Ymarfer eich sgiliau perswadio Tynnwch lun neu dychmygwch linell hir ar y llawr sy'n cynrychioli sbectrwm barn - bydd 'cytuno'n llwyr' ar y naill ben ac 'anghytuno'n llwyr' ar y llall. Darllenwch yn uchel ddatganiadau dadleuol a baratowyd ymlaen llaw a gofynnwch i bawb sefyll ar y rhan o'r llinell sydd agosaf at eu barn. Gofynnwch i bobl ar wahanol rannau o'r llinell egluro eu safbwynt ac yna gofynnwch i bobl symud os cawsant eu perswadio i newid eu barn. |
Symud eich cwch – Disgwyliadau Mae'n bwysig fod pawb yn y grŵp yn ymwybodol o ddisgwyliadau'r aelodau eraill o ran eu cyfraniad i'r grŵp. Dewch â dwy siart droi at ei gilydd a thynnu llun cefnfor ac ynys. Paratowch a dosbarthwch gychod a siarcod bach papur i'r aelodau. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu eu disgwyliadau ar gyfer y Grŵp Llysgenhadon Ieuenctid ar y cychod a'u hofnau ar y siarcod. Nawr gadewch iddyn nhw osod eu cwch ar y cefnfor, po agosaf fydd y cychod i'r ynys, y mwyaf hyderus y byddan nhw'n teimlo. Dros amser gallech benderfynu adolygu'r siart droi gan ofyn i'r aelodau a ydyn nhw am symud eu cychod yn nes at yr ynys os gwireddwyd eu disgwyliadau. Trafodwch pam mae agweddau pobl yn newid. |
Ewch ati gyda'ch gilydd i flaenoriaethu eich materion Ysgrifennwch y materion y mae gan bobl ddiddordeb ynddyn nhw, yna ymrannwch yn grwpiau llai i ymchwilio i'r ddau neu dri uchaf. Treuliwch ychydig o amser yn ymchwilio i gefndir y mater, sut mae'n effeithio ar fywydau pobl, sut y gall eich grŵp helpu, a'r bobl eraill y gallwch weithio gyda nhw. Arddangoswch eich canfyddiadau a gofynnwch i'r aelodau o'r grŵp gytuno ar y mater y maen nhw'n teimlo fwyaf cryf amdano. |
Cynhaliwch gyfweliadau Pan fyddwch chi'n dechrau arni, mae'n dda cael adborth gan bobl eraill. Beth am gyfweld â gweithiwr ieuenctid, pennaeth eich ysgol neu ffigwr lleol? Gofynnwch am eu syniadau ynghylch y materion sydd o ddiddordeb i chi, a thrafodwch sut y gallent eich cefnogi. |